Mae fersiwn gychwynnol o dy amserlen bellach ar gael i’w gweld. Rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw i ti gael gweld dy amserlen addysgu gychwynnol yn gynnar ac eleni rydyn ni wedi darparu fersiwn gychwynnol 7 wythnos yn gynt na’r llynedd.

Fel gyda phob amserlen gychwynnol, sylwer y gallai newid o hyd. Cadwa hyn mewn cof wrth drefnu ymrwymiadau y tu allan i dy fywyd yn y brifysgol. Dysga fwy am y rhesymau pam gallai dy amserlen newid a sut rydyn ni’n creu dy amserlen.

Diolch i adborth gan fyfyrwyr, rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i dy brofiad o amserlennu gyda ni eleni.

  1. Cynoeddi eich amserlen yn gynharach – 7 wythnos yn gynt.
  2. Llai o newidiadau i’r amserlen – Er y bydd diweddariadau bach i dy amserlen bob amser, bydd ein dull llunio newydd yn arwain at ychydig iawn o newidiadau yn ystod y flwyddyn.
  3. Gwell cyfathrebu – Rydym wedi cynyddu nifer y cyfathrebiadau ac wedi creu fideos a thudalennau gwe newydd sy’n esbonio’r broses amserlennu yn well.
  4. Cynaliadwyedd – Rhoi’r gorau i gynnal ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml iawn, gan osgoi goleuo a gwresogi’r mannau hyn.
  5. Adborth gweithredol gan fyfyrwyr – Rydym yn darllen pob sylw ynglŷn ag amserlennu, a dyna pam rydym wedi gwneud newidiadau.

Rydym yn gobeithio bod y gwelliannau hyn yn cyfoethogi dy addysg, dy brofiad a dy fywyd fel myfyriwr gyda ni.

Cysyllta â Thimau Gwybodaeth y Cyfadrannau am unrhyw wybodaeth ychwanegol; bydd aelod cyfeillgar o staff yn hapus i helpu.

Amserlennu Academaidd,
Y Gwasanaethau Addysg.